Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth San Steffan i gau Swyddfa Basborts Casnewydd ymhen llai na blwyddyn.

Fe fydd swyddfa ranbarthol lai yn cael ei hagor yno, gan gyflogi 150 o weithwyr – mae hynny’n golygu mai 120 fydd yn colli eu gwaith yn llwyr.

Ond dywedodd Carwyn Jones, 44 oed, fod y newyddion yn “hynod o siomedig” ac mai Cymru “fydd yr unig ran o Ynysoedd Prydain heb ei swyddfa basbortau ei hun”.

“Mae Swyddfa Basbortau Casnewydd hefyd yn gyflogwr mawr yn yr ardal, ac fe fydd colli’r swyddi rheini yn cael effaith mawr ar yr economi.”

Dywedodd Gweinidog y Swyddfa Gartref, Damian Green, ei fod yn gwerthfawrogi “y bydd yn amser anodd iawn i weithwyr yn ein swyddfa yng Nghasnewydd”.

“Rydyn ni wedi ceisio lleihau effaith y penderfyniad wrth geisio arbed yr arian sydd ei angen arnom ni,” meddai.

“Fe fydd y Gwasanaeth Pasbortau yn parhau i weithio yn agos ag adrannau eraill y Llywodraeth, awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill er mwyn dod o hyd i’r cyfleoedd a darparu cefnogaeth ar gyfer y rheini sydd wedi eu heffeithio.”

Ymateb

Croesawodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, y penderfyniad gan ddweud fod Llywodraeth San Steffan wedi “gwrando ac ymateb i bryderon pobol leol”.

Ond dywedodd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, sy’n Aelod Cynulliad dros Orllewin Casnewydd, ei fod yn “ddiwrnod du i Gasnewydd”.

“Os nad oedd y rheini oedd yn gwrthwynebu’r toriadau wedi ymgyrchu i’w hatal fe fyddai pethau wedi bod yn llawer gwaeth,” meddai.

Dywedodd Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin, fod angen datganoli’r swyddfa bosbortau, a’i fod yn werth £25 miliwn i’r economi leol.

“Os nad oes gan Gymru’r grym, does yna ddim modd gwrthwynebu penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn Llundain,” meddai.