Bu’n rhaid i wethwyr yng Ngorsaf Trenau Wrecsam atal dyn rhag mynd ar drên ar ôl iddo geisio prynu tocyn i’w geffyl.

Er iddyn nhw ddweud nad oedd hawl ganddo fynd a’i anifail ar y trên, fe  aeth y dyn a’r ceffyl mewn lifft i lawr i’r platfform a cheisio ei lusgo ar y trên.

Yn ôl adroddiad ym mhapur newydd y Daily Post roedd y dyn wedi mynd ar y trên ac yn y broses o dynnu’r ceffyl i mewn ar ei ôl pan gafodd ei atal gan y casglwr tocynnau.

Yn dilyn ffrae fe adawodd y dyn gyda’i geffyl.

Dywedodd llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru eu bod nhw’n ymwybodol o’r hyn ddigwyddodd.

“Yn amlwg does dim hawl gan deithwyr i fynd ag anifeiliaid o’r maint yna ar y trên,” meddai’r llefarydd.

“R’yn ni’n caniatáu anifeiliaid bach megis cŵn a chŵn tywys ond dim anifeiliaid mawr a allai fod yn fygythiad i’r cyhoedd.

“Ni chafodd y dyn docyn ac ni chafodd fynediad i’r trên.  Fe adawodd yr orsaf ac felly does dim angen ymchwiliad pellach.”