Aberdaugleddau
Mae Aelod Seneddol o Gymru yn pryderu am gynllun gan Lywodraeth San Steffan i werthu un o borthladdoedd Cymru.

Heddiw cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth ymgynghoriad ar werthu porthladdoedd mwyaf Prydain, gan gynnwys Aberdaugleddau, Dover, Tyne, Shoreham, Poole, a Harwich Haven.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Philip Hammond, na fyddai’n porthladdoedd yn cael eu gwerthu os nad oedd “tystiolaeth y byddai’r gymuned leol yn gallu chwarae rhan yn y porthladd”.

Roedd hynny’n cynnwys “y cyfle i effeithio ar ddatblygiad tymor hir y porthladd neu gymryd rhywfaint o elw’r porthladd”.

“Dyw hyn ddim o reidrwydd yn golygu y byddai gan y gymuned ran i’w chwarae wrth weithredu’r porthladd,” meddai.

Ond dywedodd Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, fod rhai sicrhau y byddai Cymru yn elwa petai porthladd Aberdaugleddau yn cael ei werthu.

Ychwanegodd y dylai Llywodraeth Cymru chwarae rhan mewn unrhyw drafodaethau.

“Ni fyddai Cymru yn elwa dim o werthu porthladd Aberdaugleddau ac fe fyddai’r holl arian yn mynd yn syth i’r Trysorlys yn Llundain,” meddai.

“Ar hyn o bryd dyw Cymru ddim yn derbyn unrhyw elw o’r porthladdoedd rhain, na chwaith o’r nwy ac olew sy’n morio drwy Aberdaugleddau.

“Yn yr Alban fe fyddai Llywodraeth yr Alban yn elwa o werthu unrhyw borthladd oherwydd bod y mater yn un datganoledig.

“Os ydi porthladdoedd Cymru yn cael eu gwerthu fe ddylai Llywodraeth Cymru gael rheoli’r telerau ac amodau ac elwa o’r gwerthiant.”