Dafydd Elis-Thomas, yr unig un hyd yma i gyhoeddi y bydd yn ceisio am arweinyddiaeth Plaid Cymru
Dylai’r etholiad am olynydd i Ieuan Wyn Jones yn arweinydd Plaid Cymru ddigwydd o fewn y flwyddyn nesaf, yn ôl yr unig un sydd wedi datgan hyd yma y bydd yn sefyll.

Dywedodd Dafydd Elis-Thomas y bydd ysgrifennydd ei etholaeth, Dwyfor Meirionnydd, yn cysylltu â Phwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Cymru i ofyn iddyn nhw roi’r trefniadau yn eu lle ar gyfer etholiad o’r fath.

“Y teimlad ydi y byddai angen arweinydd newydd yn ei le erbyn etholiadau’r cynghorau sir y flwyddyn nesaf, ac er mwyn arwain trafodaethau posibl ar glymbleidio yn y Cynulliad,” meddai.

Er bod Ieuan Wyn Jones wedi cyhoeddi ddydd Gwener ei fwriad i roi’r gorau iddi yn ystod hanner cyntaf tymor presennol y Cynulliad, nid yw wedi rhoi unrhyw ddyddiad pendant.

Blaenoriaeth

Wrth drafod ei fwriad i sefyll pan fydd y swydd yn dod yn wag, dywedodd Dafydd Elis-Thomas mai un o’i brif flaenoriaethau fyddai arwain Plaid Cymru’n ôl i fod yn rhan o lywodraeth cyn gynted ag sy’n bosibl.

Mae o’r farn fod rhyw fath o glymbleidio’n anorfod gan na all Llafur gynnal llywodraeth leiafrif am amser hir.

Ddim yn deall

“Dw i erioed wedi deall rhesymeg y bobol yma sy’n dweud y byddai’n beth call i Blaid Cymru fod yn wrthblaid am dipyn,” meddai Dafydd Elis-Thomas.

“Maen nhw’n dadlau bod angen amser i feddwl i ba gyfeiriad y mae’r Blaid yn mynd.

“Ond does dim angen cefnu ar lywodraeth er mwyn meddwl. Fel llywydd y Cynulliad am 12 mlynedd, ro’n i’n chwarae rhan mewn llywodraethu Cymru bob dydd yn fy ngwaith, ond doedd hynny ddim yn fy rhwystro rhag meddwl.

“Nid trwy gefnu ar ein cyfrifoldeb y mae dysgu, ond trwy weithredu. Mae’r bobl yma wedi camddeall yn llwyr beth ydi diben Plaid Cymru a’r hyn y mae etholwyr yn ei ddisgwyl oddi wrthon ni.

“Ynfydrwydd gwleidyddol fyddai dewis camu’n ôl i’r anialwch lle buon ni am dros 80 mlynedd fel plaid.”