Roedd gweld Manchester City yn ennill cwpan yr FA yn Wembley y prynhawn yma’n ergyd chwerw i’r Cymro Tony Pulis – gan mai ef yw rheolwr Stoke City.

Yr hyn oedd yn gwneud pethau’n waeth iddo oedd nad dyma’r tro cyntaf iddo golli i Man City yn Wembley – gan mai dyna oedd hanes ei dîm Gillingham yn 1999 hefyd yng ngêm derfynol gemau ail gyfle’r Ail Adran.

Heddiw oedd y tro cyntaf erioed i Stoke gyrraedd y gêm derfynol a nhw yw’r unig dîm o aelodau gwreiddiol Cynghrair Bêl-droed Lloegr nad ydyn nhw erioed wedi ennill y gwpan.

Roedd yn fuddugoliaeth fawr i Man City, er hynny, gan mai dyma’r tro cyntaf mewn 35 mlynedd iddyn nhw ennill un o’r prif wobrau.

Bron i dair blynedd ar ôl i Sheik Mansour brynu’r clwb a’i droi’n un o’r rhai cyfoethocaf yn y byd, mai ei fuddsoddiad o £300 miliwn wedi galluogi’r clwb i gymhwyso i Gynghrair y Pencampwyr a chipio cwpan yr FA o fewn wythnos i’w gilydd.

Yaya Toure, arwr y gêm gyn-derfynol, a sicrhaodd y fuddugoliaeth heddiw eto, trwy sgorio unig gôl y gêm ar ôl 74 munud. Yn ôl pob sôn, ef yw’r chwaraewyr sy’n ennill cyflog uchaf yr Uwch Gynghrair ar £185,000 yr wythnos.

“Mae’n freuddwyd sydd wedi dod yn fyw,” meddai. “Mae’n ffanstastig ennill. Mae’n ffantastig i hanes y clwb. Mae’n anhygoel.”

Un cwmwl uwchben y fuddugoliaeth i gefnogwyr Man City fodd bynnag oedd fod eu harch-elynion Manchester United wedi cipio teitl Uwch Gynghrair Barclays funudau cyn cychwyn y gêm.