Carwyn Jones - cyhoeddiad heddiw
Fe fydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn cyhoeddi enwau ei weinidogion yn ystod y dydd heddiw.

Roedd rhai wedi disgwyl cyhoeddiad ddoe ar ôl i AC Pen-y-bont ar Ogwr gymryd y llw ar gyfer y brif swydd.

Roedd wedi dweud yn union wedi canlyniadau’r etholiad ddydd Gwener diwetha’ y byddai’n ffurfio llywodraeth o fewn wythnos.

Y disgwyl yw y bydd y gweinidogion yn gymysgedd o hen wynebau a wynebau newydd, gyda rhai gwleidyddion, fel Leighton Andrews ac Edwina Hart yn sicr o le.

Ond mae dyfalu y gallai rhai newid meysydd, gyda’r angen i lenwi tair swydd a fu yn nwylo Plaid Cymru – yr economi a thrafnidiaeth, diwylliant a’r iaith a materion cefn gwlad.

Un enw newydd posib yw AC newydd Gorllewin Caerdydd, Mark Drakeford, sy’n arbenigwr ar bolisi cymdeithasol ac wedi bod yn brif ymgynghorydd i’r cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan.

Economi yn allweddol

Mae enw Leighton Andrews wedi cael ei grybwyll ar gyfer swydd yr economi, gyda phrifysgolion hefyd efallai’n rhan o’r swydd.

Ond mae addysg – ei faes yn ystod y Cynulliad diwetha’ – hefyd yn parhau’n allweddol ynghanol cyfnod o newydd a gyda Carwyn Jones yn addo codi safonau.

Fe fydd diddordeb i weld hefyd faint o weinidogion fydd yn cael eu penodi. Yn ôl rhai sylwebyddion, fe fydd Carwyn Jones yn mynd am gabinet llai – er mwyn bod yn ddarbodus ac er mwyn cadw llefydd ar gyfer cytundeb posib gyda phlaid arall.

Roedd maniffesto’r Blaid Lafur hefyd yn gwneud yn glir y bydd y Prif Weinidog ei hun yn cymryd cyfrifoldeb am ynni gwyrdd – fe allai hynny agor y drws i gyfuno swydd ynni gyda chefn gwlad.