Jonathan Evans
Roedd Etholiad 2011 yn un ‘arwyddocaol’ i’r Ceidwadwyr yng Nghymru, er bod sawl un wedi eu “gwatwar” a’u “diystyru”.

Dy farn Aelod Seneddol Gogledd Caerdydd, Jonathan Evans, wrth drafod canlyniadau’r blaid yn Etholiadau’r Cynulliad.

“Cafodd ein gobeithion ni eu gwatwar a’u diystyru yn ystod yr ymgyrch ond mi’r ydyn ni wedi gorffen â llwyddiannau arwyddocaol,” meddai.

Cyfeiriodd at lwyddiant Aberconwy a De Sir Benfro gan ddweud bod bron i bob arbenigwr gwleidyddol wedi mynnu nad oedden nhw’n mynd i ennill yno.

“Yn Aberconwy roedden ni’n mynd i ddod yn drydydd, yn ôl y bwcis,” meddai.

“Roedd yr holl ddadansoddwyr yn dweud nad oedd gan Angela Burns obaith yn Ne Sir Benfro. Doeddwn i ddim yn deall yr agwedd ddiystyriol yna gan rai dadansoddwyr.

“Mae’n dangos diffyg gwerthfawrogiad o gryfder y blaid Geidwadol mewn rhai rhannau o Gymru.”

Dewis arweinydd

Oherwydd i’r blaid gael seddi yn y Canolbarth mae Nick Bourne wedi ymadael a’r Cynulliad a’r Torïaid yn edrych am arweinydd newydd.

Dywedodd Jonathan Evans ei bod hi’n rhy gynnar i ddechrau proffwydo ynglŷn â pwy fyddai’n cymryd ei le. Mae disgwyl i olynydd gael ei benodi ym mis Mehefin.

“Pe bawn i’n enwi un, fe fyddai tri neu bedwar arall cystal yn gofyn pam na wnes i grybwyll eu henwau nhw.

“Dydw i ddim yn meddwl mai dim ond un ceffyl fydd yn y ras.”

Wrth edrych ar ei etholaeth ei hun, roedd yn hyderus y byddai Jonathan Morgan, gollodd ei sedd i Julie Morgan o’r Blaid Lafur, yn chwarae rhan flaenllaw yn ei blaid yn y dyfodol.

“Mae e angen amser nawr i lyfu ei glwyfau,” meddai . “Dw i wedi bod trwy’r un profiad o golli sedd. Mae’n fusnes cas.”

Dywedodd ei fod yn bwysig nad oes unrhyw hollt rhwng Aelodau Cynulliad y blaid a’r Aelodau Seneddol yn San Steffan.

“Rydyn ni wedi gweld Peter Hain a Carwyn Jones bron yn ffraeo ar adegau,” meddai.

“Mae’r ddau eisiau profi mae gyda nhw mae’r grym. Ond does gan y cyhoedd ddim diddordeb.

“Maen nhw eisiau fy ngweld i yn rhinwedd fy swydd yn Aelod Seneddol yn cydweithio â’r Ceidwadwyr yn y Cynulliad.”