Mae dynes oroesodd wrthdrawiad erchyll laddodd pedwar aelod o’i theulu wedi trafod beth ddigwyddodd am y tro cyntaf.
Roedd Denise Griffith, 55, y tu ôl i olwyn y car Peugeot 807 pan adawodd y ffordd a mynd i mewn i gronfa ddŵr Llyn Clywedog.
Dywedodd ei bod hi’n ceisio atal y car mewn encilfa ar ochor y ffordd pan gafodd ei tharo o’r tu ôl gan gar arall.
Fe fu farw gŵr, mam a meibion maeth Denise Griffith, o Bontypridd, o ganlyniad i’r gwrthdrawiad.
Roedd y teulu ar wyliau Pasg cynnar pan ddigwyddodd y trasiedi ar yr B4518 ger Argae Blwch y Gle, Clywedog, Llanidloes, ar 20 Ebrill.
Wrth yrru adref ar ôl treulio’r bore ym Machynlleth roedd Denise Griffith wedi arafu y car er mwyn cael mwynhau’r olygfa hyfryd dros y llyn.
Llwyddodd i ddianc o’r car ar ôl y gwrthdrawiad ond fe fu farw ei gŵr Emyr Griffith, 66, ei mam Phyllis Hooper, 84,, a’i meibion maeth Peter Briscome, a Liam Govier, y ddau yn 14.
Cafodd Gordon Dyche, 23, o Lanidloes, ei arestio ar amheuaeth o ladd drwy yrru’n beryglus a’i ryddhau ar fechniaeth yn ddiweddarach.
Roedd o y tu ôl i olwyn Ford Mondeo a’r gred oedd ei fod wedi gwerthadaro â car Denise Griffith.
“Ar y ffordd adref roedd fy mam ac Emyr yn trafod yr olygfa hyfryd,” meddai Denise Griffith mewn llythyr agored at bapur newydd y Rhondda Leader.
“Roedden ni’n ceisio atal mewn encilfa pan deimlais i ergyd o’r tu ôl.
“Trodd y car drosodd a rholio ac yn anffodus fe aeth i mewn i’r gronfa ddŵr. Gall diwrnod hyfryd droi i mewn i hunllef a trasiedi mewn eiliad.
“Pan gyrhaeddais i y wyneb a gweld fy nghi Milly yn nofio at y creigiau, fe deimlais i rywfaint o ryddhad fod gen i hi ar ôl i ofalu amdani,” meddai.
“Rydw i wedi teimlo ryw lonyddwch rhyfedd ers y ddamwain ac rydw i’n gwybod fod hynny o ganlyniad i’r holl bobol sy’n gweddïo drosta’i ym mhob rhan o’r byd.
“Mae’r hanes fel pe bai wedi cyffwrdd â nifer o bobol ym mhob cwr o’r byd.”