Mae athrawon ysgol gynradd ym Menllech, Ynys Môn, wedi dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw hyder ym mhennaeth yr ysgol.

Dywedodd Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru eu bod nhw’n bwriadu gweithredu’n ddiwydiannol os nad oes “camau cadarnhaol” er mwyn gwella pethau yno.

Maen nhw wedi cwyno’n swyddogol am bennaeth yr ysgol, Ann Hughes.

Mewn datganiad dywedodd yr athrawon o Ysgol Gynradd Goronwy Owen fod y “sefyllfa yn yr ysgol ar hyn o bryd yn gwbl annioddefol ac yn cael effaith andwyol ar ein hiechyd”.

“Rydym yn byw mewn awyrgylch o ofn fydd yn cael effaith niweidiol ar ein gallu i wneud ein priod waith,” medden nhw.

Comisiynwyd adroddiad gan y llywodraethwyr “oedd yn amlygu gwendidau sylfaenol yng ngallu arwain a rheoli’r Pennaeth” yn dilyn cwyn ffurfiol gan athrawon, meddai UCAC.

Dywedodd adroddiad y llywodraethwyr fod angen cynllun gweithredu ar gyfer yr ysgol gyfan, ond doedd yr athrawon ddim yn hapus â’r ymateb hwnnw, meddai’r undeb.

“Bydd yr athrawon yn ystyried gweithredu’n ddiwydiannol os na fydd camau cadarnhaol yn cael eu cymryd mewn ymateb i’r datganiad o ddiffyg hyder,” meddai UCAC mewn datganiad ar ran pump o athrawon yn yr ysgol.

‘Gwendidau’

Dywedodd  Dilwyn Roberts-Young, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, wrth Golwg360 nad oedd yna broblem ehangach yn yr ysgol.

“Yn y sefyllfa hon, mae angen edrych ar swydd y pennaeth a’i gallu hi i wneud y gwaith,” meddai.

Roedd yn dweud bod adroddiad y llywodraethwyr wedi “amlygu nifer sylweddol iawn o wendidau” a bod “diffygion enbyd i arwain a rheoli’r ysgol”.

“Wnaiff cynllun gweithredu ddim adfer y sefyllfa. Dyna pam rydan ni wedi cymryd y cam anarferol hwn o lunio datganiad fel hyn – rhywbeth dw i yn bersonol heb ei wneud yn y gorffennol.

“Mae’r mater yn un hynod ddifrifol.”

Dywedodd Cyngor Ynys Môn eu bod nhw’n ymwybodol o’r “sefyllfa anodd” yn yr ysgol a’u bod nhw’n cyd-weithio gyda’r ysgol a’r llywodraethwyr er mwyn datrys y broblem.