Bydd ymchwiliad newydd yn edrych ar strwythur ysbytai Cymru er mwyn gweld pam fod cleifion yn fwy tebygol o ddal haint neu farw mewn rhai nag eraill.
Bydd yr ymchwil tair blynedd gan Brifysgol Caerdydd yn ymchwilio i weld pam fod rhai ysbytai yn llwyddo i ddiogelu cleifion ac eraill yn methu.
“Rydyn ni’n amcangyfrif fod un ym mhob deg o gleifion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael eu hanafu wrth dderbyn gofal,” meddai’r Athro Martin Kitchener o Ysgol Fusnes Caerdydd.
“Mae peryglu diogelwch cleifion yn straen ar adnoddau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan gostio tua £3.5 biliwn bob blwyddyn ar draws Ynysoedd Prydain.
“Mae diogelwch cleifion yn bwysig iawn i’r cyhoedd ac i wleidyddion ac felly mae ysbytai wedi bod yn cyflwyno nifer o raglenni er mwyn gwella diogelwch.
“Serch hynny mae canlyniadau’r rhaglenni wedi amrywio oherwydd fframwaith, blaenoriaethau rheolwyr, a diwylliant gwahanol yr ysbytai.
“Nod yr ymchwil fydd penderfynu, am y tro cyntaf, pam fod ysbytai gwahanol ar draws Cymru yn gweld canlyniadau mor amrywiol a chymryd camau i fynd i’r afael â hynny.”
Mae’r tîm o Ysgol Busnes Caerdydd wedi cael £330,000 o nawdd er mwyn cwblhau’r ymchwil.
Bydd yr ymchwil yn dechrau ym mis Hydref a’r gobaith yw ei gwblhau yn 2014.