Fe fydd dyn o Gwm Rhondda yn cyflwyno’r fersiwn Americanaidd o raglen X Factor, cyhoeddwyd heddiw.

Fe fydd Steve Jones yn ymuno gydag un o gyn-sêr y Pussycat Dolls, Nicole Scherzinger, yn ogystal a’r beirniaid Simon Cowell a Cheryl Cole ar y rhaglen.

Mae Steve Jones, gafodd ei fagu yn Glynrhedynog,  yn fwyaf enwog am gyflwyno’r rhalgen 101 Ways to Leave a Gameshow.

Dywedodd Simon Cowell, sydd hefyd yn gynhyrchydd ar y rhaglen, ei fod o “wedi bod yn awyddus i weithio gyda Steve ers tro. Dw i’n meddwl ei fod yn seren go iawn”.

Dywedodd Steve Jones fod “y cyfle i weithio gyda Simon Cowell bob dydd yn freuddwyd sydd wedi dod yn wir”.

“Rydw i wedi cael cynnig gwaith yn yr Unol Daleithiau o’r blaen ond heb deimlo fod yr amser yn iawn. Ond pan gefais i gynnig yr X Factor roedd rhaid i mi gymryd y cyfle.”