Mae prisiau tai tair sir yng Nghymru yn uwch nag oedden nhw cyn yr argyfwng ariannol, yn ôl ymchwil gan gwmni eiddo Savills.

Yn ôl y cwmni mae prisiau tai Bro Morgannwg a Sir y Fflint yn uwch nag oedden nhw yn 2006, a phrisiau tai Ceredigion yn uwch nag oedden nhw yn 2007.

Roedd prisiau tai ar draws Ynysoedd Prydain ar eu hanterth yn 2007 cyn iddyn nhw ddechrau syrthio yn dilyn yr argyfwng ariannol yn 2008.

Ers hynny mae prisiau tai y rhan fwyaf o Gymru wedi disgyn yn ôl i tua’r un lefel ag yn 2003/2004, cwymp o £154,969  i £133,371 ar gyfartaledd.

Roedd Ceredigion, Sir y Fflint a Bro Morgannwg ar restr o 20 sir y tu allan i Lundain oedd wedi gweld cynnydd mewn prisiau tai ers yr argyfwng ariannol.

Dywedodd Lucian Cook, pennaeth ymchwil marchnata Savills, fod y bwlch mewn prisiau o un ardal i’r llall yn debygol o barhau am flynyddoedd i ddod.

“Fe fydd prisiau tai mewn ardaloedd sydd wedi gweld cwymp yn ôl i brisiau 2004 yn ei chael hi’n anoddach codi eto nag ardaloedd sydd eisoes wedi cynnal prisiau tai 2006 a 2007,” meddai.