Mae Angela Burns wedi dal ei gafael ar Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro
Mae Angela Burns wedi dal ei gafael ar sedd Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, er gwaetha’r darogan y bydda hi’n agos rhyngddi hi a’r ymgeiswyr Plaid Cymru a Llafur.
Mi gynyddodd pleidlais ymgeisydd y Ceidwadwyr 5.8%, wrth iddi dderbyn 10,095 o bleidleisiau.
Roedd disgwyl i’r canlyniad fod yn agos, ond yn y diwedd daeth yr ymgeisydd Llafur Christine Gwyther yn ail gyda 8,591, tra bod Nerys Evans o Plaid Cymru yn drydydd gyda 8,373 o bleidleisiau.
Roedd y Ceidwadwyr, Llafur a Plaid Cymru i gyd wedi cynyddu eu pleidlais o gymharu â chanlyniadau 2007.
Fe orffennodd Christine Gwyther yn ail i Angela Burns yn etholiad 2007, tra bod Nerys Evans wedi penderfynu ceisio am y sedd yn hytrach nag aros ar restr ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru.