Dr Dai Lloyd
Mae Dr Dai Lloyd o Blaid Cymru wedi colli’i le yn y Cynulliad, a Cheidwadwr sy’n cymryd ei le.
Ers y Cynulliad cynta’ yn 1999 roedd wedi cynrychioli rhanbarth Gorllewin De Cymru.
Fe lwyddodd Plaid Cymru i ethol eu dewis cyntaf ar y rhestr ranbarthol, Bethan Jenkins, ‘nôl mewn i’r Cynulliad, ond doedd y bleidlais ddim yn ddigon i ethol cyn-ysgrifennydd Cyllid Cysgodol y Blaid.
Enillodd y Ceidwadwyr ddwy o’r pedair sedd ar y rhestr rhanbarthol gyda Suzy Davies a Henry Byron Davies yn cael eu hethol ar ôl i’r Torïaid dderbyn 27,457 o bleidleisiau.
Fe gafodd Plaid Cymru 21,258 o bleidleisiau a sicrhaodd bod Bethan Jenkins yn cadw ei sedd – ond roedd pleidlais y blaid ar y rhestr ranbarthol wedi disgyn 3.9%
Mae Peter Black hefyd yn dychwelyd i’r Democratiaid Rhyddfrydol er i’w blaid golli 5.5% o’u pleidlais ar y rhestr ranbarthol gyda 10,683 pleidlais.