Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi cyhuddo arweinwyr y Blaid Lafur a Phlaid Cymru o beidio â derbyn eu cyfrifoldeb am broblemau Cymru.

Mae Kirsty Williams wedi ymosod ar Carwyn Jones, arweinydd y Blaid Lafur, a Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru, ar y diwrnod olaf o ymgyrchu cyn Etholiadau’r Cynulliad yfory.

Dywedodd fod clymblaid Llafur a Phlaid Cymru “wedi ein gadael ni gydag economi gwan, ysgolion sydd heb eu cyllido yn ddigonol, a gwasanaeth iechyd sy’n costio mwy ond yn llai effeithiol”.

“Mae Mr. Jones Llafur yn beio San Steffan. Mae Mr. Jones Plaid Cymru yn beio Mr. Jones Llafur.

“Dyma’r ddau ddyn sydd wedi bod yn rhedeg y wlad, ond maen nhw wedi treulio’r ymgyrch gyfan yn osgoi trafod eu record eu hunain am ei fod e mor wael.”

Yn y canolbarth

Heddiw fe fydd Kirsty William yn ymgyrchu yng nghanolbarth Cymru gyda dirprwy arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Simon Hughes.

Mynnodd fod Llafur a Phlaid Cymru wedi “troi gwastraff ac anallu yn gelfyddyd”.

“Yfory, fe allwch chi ddefnyddio eich dwy bleidlais i sicrhau fod Cymru yn gwneud yn well. Mae angen llywodraeth yng Nghymru sy’n bwrw ymlaen â’r gwaith o wella pethau yma, yn hytrach na beio pawb a phopeth arall.

“Fe fydd pob pleidlais o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol ddydd Iau yn bleidlais o hyder fod Cymru yn gallu gwneud yn well.”