Poster drama'r dioddefaint
Fe fu’r actor Michael Sheen yn cysgu ar ochr bryn tros nos neithiwr ac fe fydd mewn cell heddlu heno, wrth iddo berfformio fersiwn newydd o ddrama’r dioddefaint ym Mhort Talbot.

Eisoes, mae miloedd o bobol wedi bod yn gwylio rhannau o The Passion, sy’n cael ei pherfformio amgylch y dref tros y penwythnos.

Fe fydd y cynhyrchiad gan National Theatre Wales yn dod i ben gyda golygfa groeshoelio ar draeth Aberafan nos Sul.

Mae’r ddrama wedi ei chreu gan Michael Sheen, sy’n dod yn wreiddiol o Bort Talbot, gyda sgript gan y bardd a’r nofelydd Owen Sheers.

“Mae’r ddrama yn hollol am y dref,” meddai’r actor, sy’n enwog am bortreadu gwleidyddion fel Tony Blair. “Ond mae ar sylfaen stori wythnos ola’ Iesu Grist.”

Roedd yn dweud ei fod wedi’i ysbrydoli trwy gofio perfformiadau o ddrama’r dioddefaint ym Mhort Talbot pan oedd yn blentyn.