Glyn Davies
Mae Aelod Seneddol sy’n ymgyrchu yn erbyn adeiladu cyfres o beilonau trydan ar draws canolbarth Cymru wedi cymharu’r cynllun â boddi cwm Tryweryn.

Cyhoeddodd y Grid Cenedlaethol fis diwethaf eu bod nhw’n bwriadu codi rhes o beilonau ar draws Powys a Swydd Amwythig.

Trefnodd Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn, Glyn Davies, gyfarfod cyhoeddus ym Marchnad Da Byw y Trallwng ddoe er mwyn gwrthwynebu’r cynllun.

Ymhlith y siaradwyr oedd Sian Lloyd a Jayne Ashley, merch Laura Ashley.

Y bwriad yw adeiladu isbwerdy 19 acr ym Mhowys fydd yn dosbarthu trydan sydd wedi ei greu gan 10 fferm wynt fydd yn cael eu hadaeiladu gerllaw.

Bydd peilonau dros 150 troedfedd yn cario’r trydan 26 milltir ar draws y sir.

‘Rali’

“Roeddwn i eisiau i bobl gael cyfle i drafod y cynlluniau â fi,” meddai Glyn Davies. Ond roedd cymaint o ddiddordeb wedi bod roedd y cyfarfod “wedi troi’n rali”.

“Roedd y ffordd osgoi yn llawn dop ar un pwynt,” meddai cyn dweud mai dyna’r “dyrfa fwyaf mewn cyfarfod cyhoeddus ydw i wedi ei weld yn fy myw”.

“Dw i’n anghytuno’n llwyr y dylai canolbarth Cymru gael ei aberthu ar gyfer y cynllun yma. Fe fydd o’n dinistrio’r ardal fel ag y mae o.

“Bydd penderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn arwain at ddinistr llwyr.

“Rydyn ni’n teimlo fod hyn ar yr un raddfa a Thryweryn. Bydd pobl yn cofio hyn yn yr un ffordd os yw’n digwydd.

“Dyw Bae Caerdydd ddim yn poeni am ganolbarth Cymru, wrth gwrs,” meddai’r cyn Aelod Cynulliad. “Ond mae pobol yn teimlo dicter mawr.”

Dywedodd mai’r cam nesaf oedd trefnu protest y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd, a gorfodi dadl yn y Senedd.