Tom Shanklin
Mae canolwr Gleision Caerdydd, Tom Shanklin, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol ar ôl methu a gwella o anaf i’w ben-glin.
Roedd y chwaraewr 31 oed wedi cael llawdriniaeth ym mis Ionawr, ond dywedodd heddiw nad oedd hynny “wedi gweithio”.
“Cyngor y llawfeddyg Rhys Williams oedd fy mod i’n ymddeol. Mae’n nabod y tu mewn i fy mhen-glin yn well na neb ar ôl tair neu bedair llawdriniaeth arno.
“Fy mhenderfyniad i oedd ymddeol ai peidio, ond alla’i ddim parhau, mae’n rhy boenus.
“Rhaid i fi ddechrau edrych ar ôl fy nghorff a gwrando arno.”
Roedd Tom Shanklin yn rhan bwysig o’r timoedd enillodd y Gamp Lawn yn 2005 a 2008 a chwaraeodd yn nhîm y Llewod yn Seland Newydd yn 2005.
Methodd cyfres y Llewod yn 2009 oherwydd anaf i’w ysgwydd.
Sgoriodd 20 cais ac ennill 70 cap yn ystod ei yrfa ryngwladol. Chwaraeodd ei gêm gyntaf yn erbyn Japan yn 2001.
Chwaraeodd 114 o gemau i’r Gleision gan sgorio 28 cais.
Chwaraeodd ei gêm olaf dros Gymru yng nghyfres yr hydref y llynedd, cyn anafu ei ben-glin ym mis Ionawr wrth herio Aironi yng nghynghrair Magners.