Martyn Williams
Bydd  blaenwr mwyaf profiadol Cymru yn chwarae yn erbyn ei wlad ei hun ar ddydd Sadwrn, 4 Mehefin, yn nhîm y Barbariaid.

Dyw asgellwr y Gleision, sydd â 98 cap, ddim wedi chwarae dros Gymru ers colli 25-37 yn erbyn Seland Newydd mis Tachwedd diwethaf.

“Mae’n rhyfedd chwarae yn erbyn Cymru ond rydw i’n edrych ymlaen at y profiad,” meddai.

“Mae’n anrhydedd cael chwarae dros y Barbariaid, ac yn brofiad arbennig cael chwarae yn erbyn fy ngwlad fy hun.

“Fe fydd yn wych chwarae yn Stadiwm y Mileniwm. Mae wedi bod yn amser hir ers i fi chwarae yno erbyn hyn ac fe fyddai’n cael herio nifer o fy ffrindiau pennaf!”

Dywedodd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, nad oedd y gêm yn golygu na fyddai Martyn Williams yn sgwad Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd ym mis Medi.

“Mae’n gyfle gwych i weld sut y bydd ein cefnwyr ifanc yn ymdopi yn erbyn chwaraewr profiadol o safon uchel,” meddai.

Dywedodd Martyn Williams ei fod yn gobeithio y byddai perfformiad o safon yn sicrhau ei le yn y sgwad ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.

“Cwpan y Byd yw uchafbwynt gyrfa pob chwaraewr, ochr yn ochr â’r Llewod. Pe bawn i’n cael y cyfle fe fyddwn i’n ei fachu yn syth.”

Mae Martyn Williams wedi chwarae dros y Barbariaid pum gwaith, gan ennill gwobr Seren y Gêm wrth faeddu De Affrica 22-5 ym mis Rhagfyr 2007.

Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn y Barbariaid yn 1996.

“Rydw i wedi mynd o ennill fy nghap cyntaf yn erbyn y Baa-Baas, i chwarae drostyn nhw yn erbyn Cymru,” meddai.

“Rydw i’n gobeithio y bydd tîm y Barbariaid yn llawn chwaraewyr o’r safon uchaf. Y gobaith yw y bydd y rheng ôl yn cynnwys Sergio Parisse a George Smith, a fyddai’n wych.”