Mae ymgyrch Plaid Cymru i ennill pleidleisiau yn Etholiadau’r Cynulliad wedi cyrraedd y sgrin fawr.

Mae’r blaid wedi datgelu eu hysbyseb diweddaraf heddiw, a fydd yn cael ei dangos mewn sinemâu ledled Cymru.

Dywedodd Plaid Cymru mai dyma’r ymgyrch gyntaf o’i fath yng Nghymru.

“Rydyn ni’n blaid ddyfeisgar sy’n llawn syniadau newydd, ac fe fydd yr ymgyrch sinema o gymorth i ni wrth ledaenu ein neges am Gymru well i bob cwr o’r wlad yn ystod yr wythnosau olaf cyn yr etholiad,” meddai Elin Jones, pennaeth cyfathrebu’r Blaid.

“Fe fydd ein hymgyrch hysbysebu yn mynd rhagddi yn ystod penwythnos prysur y Pasg ac yn parhau’r wythnos ganlynol.

“Rydyn ni’n benderfynol o gyrraedd cymaint o bleidleiswyr â phosib yn ystod yr ymgyrch etholiadol yma ac fe fydd yr hysbysebion yma o gymorth i ni wrth gyrraedd pobol na fydden nhw fel arfer yn dilyn ymgyrchoedd etholiadol.”

Yr hysbyseb

Mae’r hysbyseb yn canolbwyntio ar ddyn yn ei 20au, sy’n deffro ar ddiwrnod y bleidlais, sef 5 Mai.


Mae’n beirniadu safon addysg yng Nghymru dan y Blaid Lafur cyn amlinellu addewid Plaid Cymru i fynd i’r afael â nifer y bobol anllythrennog yn y wlad.

Llafur yn torri tir newydd

Daw’r hysbyseb “arloesol” ar ôl i’r Blaid Lafur lansio eu sgrin fawr eu hunain ddydd Mawrth – ‘poster digidol’ fydd yn teithio i bob cwr o Gymru gan ddatgan neges y blaid.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid mai dyma’r tro cyntaf i boster digidol gael ei ddefnyddio mewn etholiad yng Nghymru.

“Mae’n bwysig nad ydyn ni’n bodloni ar eistedd yn ôl ac fe fydda i yn teithio i bob cwr o Gymru er mwyn tanlinellu ein haddewidion ni,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.