Mae yna bryder fod pedwar o bobol wedi marw ar ôl i gar ddisgyn i mewn i gronfa ddŵr.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn adroddiad ynglŷn â damwain ffordd mewn cronfa ddŵr ger Llanidloes, ym Mhowys.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i un goroeswr, ond dywedodd fod pedwar person arall yn y car.
Digwyddodd y ddamwain ger argae Bwlch y Gle, yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys.
“Derbyniodd yr heddlu alwad yn dweud bod damwain wedi digwydd tua 2.30pm, ar ôl i’r car fynd i mewn i’r gronfa ddŵr. Rydyn ni’n chwilio’r ardal ar hyn o bryd,” meddai.
Mae RAF y Fali, ar Ynys Môn, wedi anfon un hofrennydd Sea King i chwilio’r gronfa ddŵr.
“Rydyn ni’n ymateb i adroddiad fod car wedi mynd i mewn i’r dŵr â phum person y tu mewn. Rydyn ni wedi anfon criw ac yn dal i chwilio,” meddai llefarydd.
Gwrthdrawiad
Dywedodd dynes sy’n gweithio gerllaw ei bod hi wedi clywed bod car wedi taro un arall, a bod hwnnw wedi disgyn i mewn i’r gronfa ddŵr.
“Roedd sawl car heddlu wedi mynd heibio, ambiwlansiau a chychod achub,” meddai’r ddynes nad oedd eisiau cael ei henwi.
“Y stori yw fod un car wedi taro un arall a mynd i mewn i’r argae.
“Maen nhw wedi cau’r ffordd, ac mae pobol yn dweud fod sawl un wedi marw.
“Fe aeth yna ambiwlans heibio yn ddiweddarach â’i seiren yn mynd – roedd yn mynd allan o’r dyffryn naill ai i Aberystwyth neu i’r Amwythig.”