Y Pafiliwn Pinc
Mae’r Eisteddfod a chlwb rygbi’r gynghrair y Crusaders wedi penderfynu cydweithio er mwyn codi arian at y brifwyl eleni.

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ar dir Fferm Bers Isaf ger Wrecsam o 30 Gorffennaf – 6 Awst eleni.

Mae’r Crusaders yn bwriadu rhoi rhywfaint o’r elw o un o’u gemau mis nesaf tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd y clwb Cymreig yn wynebu’r Wigan Warriors ar y Cae Ras ar 1 Mai ar gyfer un o gemau mwyaf y tymor.

Bydd modd i gefnogwyr gwblhau taleb arbennig sydd ar gael ar lein ac yn lleol er mwyn bod yn rhan o’r cynllun.

Wrth gyflwyno’r daleb wedi’i chwblhau wrth brynu tocynnau i’r gêm yn Swyddfa Docynnau’r Cae Ras yn Wrecsam, bydd y clwb yn cyfrannu tuag at y gronfa leol.

“Mae hwn yn gynllun gwerth chweil ac yn ffordd arbennig o dda o godi arian i’r gronfa leol,” meddai prif weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts.

“Rydym yn dra diolchgar i’r Crusaders am eu cefnogaeth ac yn gobeithio y bydd  nifer fawr o’u cefnogwyr yn cymryd mantais o’r cynnig, nid yn unig i gefnogi’r cynllun ond hefyd i gefnogi’r clwb yn y gêm fawr.”