Bydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn cael ei throi’n sinema ‘gyrru i mewn’ dros benwythnos y briodas frenhinol.

Fe fydd y stadiwm sy’n gartref i’r Adar Gleision yn cynnal digwyddiad Drive In Movie Weekend gorsaf radio Capital FM.

Bydd y ‘sinema’ yn dangos tair ffilm – Pretty Woman ar ddydd Gwener 29 Ebrill, The Hangover ddydd Sadwrn a The Goonies ddydd Sul.

Bydd y ffilmiau yn cael eu dangos ar sgrin 165 troedfedd ym maes parcio’r stadiwm, a bydd sawl siop symudol yn gwerthu bwyd cyflym Americanaidd.

“Mae pawb eisiau mynd i sinema ‘gyrru i mewn’ fel yr ydyn ni wedi eu gweld yn y ffilmiau,” meddai cyfalwynydd Capital FM, Leigh Jones.

Mae’r sinemâu yn gyffredin yn yr Unol Daleithiau ond dydyn nhw ddim mor boblogaidd ym Mhrydain – yn bennaf oherwydd y glaw.

Ond mae disgwyl tywydd heulog a braf drwy gydol y penwythnos.