Kate Middleton a'r Tywysog William
Mae’r gwleidydd Bethan Jenkins wedi dweud y dylai Cymru droi cefn ar y frenhiniaeth a sicrhau mai Charles “yw Tywysog olaf Cymru”.

Dywedodd ei bod hi’n feirniadol iawn o’r Cynulliad am annog y Cymry i ysgrifennu negeseuon yn llongyfarch y Tywysog William a Kate Middleton ar eu priodas ar 29 Ebrill.

Mae’r llyfrau negeseuon ar gael ers ddoe ac fe fyddwn nhw’n agored nes 6 Mai yn y Senedd a swyddfeydd Llywodraeth y Cynulliad yng Nghaerdydd, Cyffordd Llandudno, Aberystwyth a Merthyr Tudful.

“Doedden nhw ddim wedi gofyn i ni pan oedden ni’n Aelodau Cynulliad a oedden ni eisiau gweld hyn,” meddai Bethan Jenkins, sy’n cynrychioli Plaid Cymru ar restr rhanbarthol Gorllewin De Cymru.

Mae Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad ac ymgeisydd Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionydd, wedi annog pobol i arwyddo’r llyfrau.

“Bydd y Tywysog William a Catherine Middleton yn byw ar Ynys Môn, ac y byddant yn dechrau eu bywyd priodasol yma,” meddai. “Mae’n briodol iawn bod gan bobl Cymru’r cyfle yma i ddymuno’n dda iddynt yn bersonol”.

‘Anaddas’

“Rydw i’n parchu Dafydd Elis-Thomas fel gwleidydd. Ond, dydw i ddim yn credu mai lle y Cynulliad yw agor llyfrau yn gofyn i bobl anfon negeseuon at Kate a William,” meddai Bethan Jenkins.

“Er fod yna rai pobol sy’n hoff o’r teulu brenhinol, mae yna lawer iawn sydd ddim, hefyd. Rydw i’n meddwl ei fod e’n anaddas. Dyw agor llyfr ddim yn adlewyrchu barn y gymdeithas gyfan.

“Rydw i’n credu y dylen ni ddangos agwedd wahanol, fwy modern, yng Nghymru. Rydw i’n credu na ddylai fod yna Dywysog arall ar ôl Charles.”

“Mae nifer o weriniaethwyr wedi dweud y dylen i anwybyddu’r peth. Ond, mae angen gwneud safiad.

“Mae’n anghywir bod y BBC sydd i fod yn ddiduedd yn gwneud gymaint o raglenni ac yn hybu y briodas frenhinol”.