Leighton Andrews
Mae cyn-bartneriaid Cymru’n Un wedi ymosod ar ei gilydd yn ffyrnig ar ddechrau wythnos arall o ymgyrchu at etholiad y Cynulliad.

Mae Leighton Andrews, gweinidog Addysg y llywodraeth ddiwethaf, wedi galw ar bleidleiswyr Llafur i ddod allan yn eu miloedd er mwyn sicrhau na fydd Plaid Cymru’n ffurfio clymblaid gyda’r Torïaid.

“Un o’r pethau siomedig yn yr ymgyrch etholiad yma yw cymaint o amser y mae Plaid Cymru wedi ei dreulio’n ymosod ar Lafur Cymru – yn hytrach na chanolbwyntio ar yr wir her sy’n wynebu Cymru, sef polisïau’r llywodraeth o dan arweiniad y Ceidwadwyr yn Llundain,” meddai.

“Y ffaith yw eu bod nhw’n gorfodi toriadau difrifol a fydd yn effeithio ar Gymru.

“Mae’n bryd i Blaid Cymru fod yn onest a dweud a fydden nhw’n taro bargen â Phlaid Cymru ai peidio – maen nhw’n gwrthod ymwrthod yn llwyr â’r syniad.”

‘Codi bwganod’

Ond yn ôl ei gyn-gyd aelod cabinet Elin Jones o Blaid Cymru, codi bwganod mae Leighton Andrews.

Mewn cynhadledd newyddion yng Nghaerdydd, dywedodd Elin Jones mai blaenoriaeth ymgyrch ei phlaid heddiw oedd sicrhau bod pawb yng Nghymru’n sylweddoli’r “gwahaniaethau amlwg rhwng Plaid Cymru a Llafur”.

“Mae Llafur yn gyffyrddus iawn yn dychryn pobl Cymru ynghylch beth allai ddigwydd cyn neu ar ôl etholiad,” meddai.

“Nid ein blaenoriaeth ni yw dychryn pobl i bleidleisio. Mae arnon ni eisiau rhoi i bobl syniadau clir o’r hyn yw ein blaenoriaethau.

“Mae dod i gytundeb gyda’r Torïaid neu’r Democratiaid Rhyddfrydol yn fwy anodd yn 2007 oherwydd cyd-destun gwleidyddol Cymru yn 2011, drwy ein bod ni’n anghytuno’n sylfaenol â llawer o benderfyniadau’r ddwy blaid yn Llundain.

“Ond mae arnon ni hefyd eisiau pwysleisio’r perygl a fyddai o Lafur yn rhedeg llywodraeth ar ei phen ei hun.”