Mae Cymdeithas yr Iaith yn anghytuno'n chwyrn gyda bwriad Llywodraeth San Steffan ar gyfer S4C

Mae dwy genhedlaeth o Wynedd yn parhau â’r frwydr i geisio ‘achub’ S4C.

Heno fe fydd ‘Cyngerdd Gwladgarol: Achubwn S4C’ yn cael ei gynnal mewn capel yn Nant Peris ger Llanberis.

Mae’r noson wedi ei threfnu gan Eilian Williams, sy’n dad i ymgyrchydd iaith sy’n wynebu achos Llys.

Mae Heledd Williams wedi ei chyhuddo o dorri fewn i swyddfa Aelod Seneddol Ceidwadol, fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i sicrhau digon o arian ag annibyniaeth i S4C.

Ymhlith y perfformwyr yng Nghapel Reheboth heno mae Elwyn ‘Hogia’r Wyddfa’, Gari Jones, Emyr Gibson a Lawrence Huxham. 

Bydd anerchiad gan un o hoelion wyth Cymdeithas yr Iaith, Angharad Tomos. Mae mynediad am ddim ond fe fydd arian yn cael ei gasglu at goffrau’r Gymdeithas.

Ers dwy flynedd bellach mae aelodau o Gapel Rehoboth wedi bod yn cynnal cyngherddau i dynnu sylw at achosion a chynnig cefnogaeth. Maen nhw wedi helpu i godi dros £600 i ddwy ferch o Batagonia fedru dod i Gymru, yn ogystal â helpu ffoaduriaid Cristnogol o Irac.

Y tad yn falch o’r ferch

Mae Heledd Williams yn wynebu achos Llys yn dilyn honiad ei bod wedi torri i mewn i swyddfa etholaeth yr AS Jonathan Evans, a chwistrellu slogan ar y wal gydag ymgyrchydd arall –  Jamie Bevan o Ferthyr Tudful.

Tra mae rhai wedi beirniadu’r Gymdeithas o ddifrodi eiddo heb bod angen, mae tad Heledd Williams yn bendant fod y tactegau’n briodol.

“Dw i’n falch ei bod wedi  gwneud y weithred ddi-drais. Mi faswn i’n dweud ei bod hi’n weithred Gristnogol hyd yn oed,” meddai Eilian Williams wrth Golwg360.

“Wrth feddwl am Gwynfor [Evans] yn cynnig ei fywyd – dw i’n teimlo bod Cymru wedi mynd yn wlad dawedog. Dw i’n teimlo mai gweithred Heledd oedd y cyntaf difrifol ers blynyddoedd.

“Brwydr yn erbyn anghyfiawnder ydi hwn – brwydr Gristnogol. Herio Llywodraeth y dydd yn hytrach na bod yn dawedog.”

Dysgwr: S4C yn bwysig

Mae dyn o Wlad Belg sy’n chwarae yn y cyngerdd, yn dweud fod S4C wedi bod yn hwb allweddol gyda’i ymdrech i feistroli’r Gymraeg.

“Dw i wedi dysgu Cymraeg ers 2005 ac yn canu cerddoriaeth Gymraeg. Rydw i  eisiau byw yng Nghymru ac eisiau gwneud popeth dros y wlad, perfformio, cefnogi Cymdeithas yr Iaith a chyfansoddi cerddoriaeth Gymraeg,” meddai  Lawrence Huxham, myfyriwr o Brifysgol Bangor sy’n chwarae’r crwth yn y cyngerdd.

Yn wreiddiol, daw Lawrence Huxham o Ottignese, Gwlad Belg. Maen hanner Cymro a hanner Eidalwr. Fe ddaeth i Gymru i “ddilyn ôl troed” ei nain a’i daid oedd yn dod yn wreiddiol o dde Cymru.

 “Pan ro’ ni’n dysgu Cymraeg, roeddwn i’n gwylio S4C i’m  helpu fi ddysgu ac i wylio fy hoff raglenni; Nodyn, Noson Lawen, Rownd a Rownd a Sioe Tudur Owen.

“Mae’n bwysig iawn bod S4C yn fyw fel y sianel deledu Cymru,” meddai.

Rali yn y gogledd

Fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal rali ar Stryd Fawr Bangor yfory yn galw am S4C sy’n annibynnol o’r BBC.

Mae Llywodraeth Prydain am weld y ddau gorff yn cydweithio gyda’r BBC yn talu am y rhan fwyaf o raglenni S4C.

Ymhlith y cyfranwyr yfory fydd Dafydd Iwan o Blaid Cymru, y Prifardd Ieuan Wyn o Fethesda a Mair Rowlands Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor.