Mae cwmni awyrennau wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhoi’r gorau i’w teithiau o faes awyr Caerdydd ar ddiwedd yr haf.

Dywed cwmni bmibaby y byddan nhw’n canolbwyntio’n hytrach ar ehangu teithiau o feysydd awyr Dwyrain Canolbarth Lloegr, Birmingham a Belfast.

Ar hyn o bryd mae’r cwmni’n cynnig teithiau i naw o wahanol gyrchfannau yn Sbaen, Portiwgal a’r Swistir o Gaerdydd, ac maen nhw wedi bod yn un o gwmnïau pwysicaf y maes awyr ers cychwyn eu teithiau oddiyno yn 2002.

“Yn yr hinsawdd economaidd presennol mae’n hanfodol i bmibaby ganolbwyntio ar lle mae gan y cwmni bresenoldeb cryf eisoes, a lle mae cyfleoedd cryf i’r busnes,” meddai Julian Carr, rheolwr gyfarwyddwr bmibaby.

“Felly mae bmibaby wedi penderfynu rhoi’r gorau i’w teithiau o Gaerdydd ac o Fanceinion ar ddiwedd rhaglen haf 2011.”