Dylan Thomas
Mae Plaid Cymru wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu cywiro eu maniffesto ar ôl honni fod dyfyniad ynddo yn eiddo i’r bardd Dylan Thomas.

Cyhoeddodd y Blaid eu maniffesto 108 tudalen heddiw. Ond roedd tri gair yn y copi Saesneg – ‘Ambition is Critical’ – yn cael eu priodoli i’r bardd o Abertawe.

Daeth i’r amlwg ar ôl y lansiad mai bardd arall, David Hughes, fathodd y geiriau.

Roedd yn un o dri artist gafodd eu comisiynu gan gyngor Abertawe yn 1992 i lunio cerddi yn dathlu “hud y lle”.

Mae ei eiriau yn ymddangos ar y palmant y tu allan i orsaf drenau Abertawe, sy’n ymddangos yn y ffilm enwog Twin Town ryddhawyd yn 1997.

Dywedodd David Hughes, 63, wrth y BBC fod camgymeriad Plaid Cymru yn adlewyrchu’n dda ar ei waith.

Yn ôl y maniffesto: “Wrth i Gymru baratoi ar gyfer canmlwyddiant genedigaeth Dylan Thomas yn 2014 mae ei eiriau wedi eu mabwysiadu gan Blaid Cymru.”

Mae sawl un wedi camgymryd y dyfyniad am waith Dylan Thomas, gan gynnwys y chwaraewr rygbi Gareth Thomas.

“Yn ein maniffesto rydyn ni’n dweud mai geiriau Dylan Thomas oedden nhw ac mae sawl cyhoeddiad yn dweud hynny, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, ac efallai mai dyna pam fod y camddealltwriaeth wedi digwydd,” meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru.

“Os nad yw hynny’n wir fe wnawn ni gywiro ein maniffesto a gofyn am gyngor pellach yn y dyfodol wrth gadarnhau ein cyfeiriadau llenyddol.

“Serch hynny rydyn ni’n parhau i gredu y dylai’r geiriau fod yn egwyddor i lywodraeth nesaf Cymru eu dilyn er mwyn creu Cymru well.”

Dyfyniadau eraill gan Dylan Thomas (efallai)

An alcoholic is someone you don’t like who drinks as much as you do.
Do not go gentle into that good night.

Rage, rage against the dying of the light.

He who seeks rest finds boredom. He who seeks work finds rest.
I’ve just had eighteen straight whiskies. I think that’s the record.

The land of my fathers. My fathers can have it.