Elin Jones
Mae pôl piniwn answyddogol gan fyfyrwyr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn awgrymu bod Llafur yn ennill tir yn sylweddol ers yr etholiad yn 2007.

Mae’r arolwg yn awgrymu fod llawer iawn o gefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol wedi trosglwyddo i’r Blaid Lafur.

Mae Plaid Cymru ymhell ar y blaen ar 42%, cwymp o -7% ers 2007. Mae’r Dems Rhydd wedi syrthio i 23% (-13%) a’r Blaid Lafur ar 20% (+15%). Mae’r Ceidwadwyr yn bedwerydd ar 11% (+3%).

Daeth y Blaid Lafur yn bedwerydd yn 2007 â dim ond 5.1% o’r bleidlais. Roedd y Dems Rhydd ar 36.1% a Phlaid Cymru ar 49.2%.

Cafodd 989 o’r 1,195 o ymatebion i’r arolwg eu casglu wyneb yn wyneb yn Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi, Tregaron, Llanbedr pont Steffan a Llandysul â’r gweddill wedi eu casglu ar-lein.

Bydd mwyafrif iach Plaid Cymru yn rhyddhad i’r blaid ar ôl i’r Democratiaid Rhyddfrydol ennill y sedd yn Etholiadau’r Cyffredinol â dros 50% o’r bleidlais.