Mae Sefydliad Brenhinol y Badau Achub wedi achub ci oedd wedi disgyn i lawr clogwyn yn y Mwnt.

Roedd gwirfoddolwyr y badau achub allan yn hyfforddi bore ma pan dderbyniodd gwylwyr y glannau alwad 999 gan berchennog y ci.

Brysiodd y bad achub i’r clogwyni ac achub y cyfeirgi Gwyddelig a elwir Cochyn, cyn mynd ag ef yn ôl i’r traeth ble’r oedd ei berchennog yn disgwyl amdano.

Roedd y ci yn holliach heblaw am ambell i glais.

Ar ôl dychwelyd i’r orsaf bu’n rhaid troi’n syth yn ôl ar ôl derbyn adroddiad fod person ar goll yn ardal Llandudoch.

Daethpwyd o hyd i’r person cyn i’r badau achub gyrraedd ac roedden nhw’n rhydd i fynd yn ôl i’r orsaf.