Mae’r heddlu yng Nghaerdydd yn galw am wybodaeth ar ôl i ddyn gael ei fygwth â chyllell yn Nhredelerch.

Digwyddodd y drosedd honedig ar Ffordd Burnham ger y gyffordd â Chlos Hazlitt tua 9.45am ddoe.

“Roedd dyn 18 oed yn cerdded ar hyd Ffordd Burnham pan nesaodd pedwar dyn ato,” meddai’r Ditectif Gwnstabl Steve Pearce.

“Tynnodd un ohonynt gyllell a bygwth y dioddefwr er mwyn dwyn ei ffon symudol.

Yna rhedodd y dynion i ffwrdd i Ffordd Ashburton.

“Mae trosedd o’r fath yma, yn enwedig yr adeg yna o’r diwrnod, yn rhyfedd iawn ac rydw i’n siŵr fod pobol allai helpu wrth adnabod y dynion oedd yn gyfrifol.

“Dylai unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd neu a welodd unrhyw un yn yr ardal yn ymddwyn mewn modd amheus gysylltu â ni.”

Dywedodd yr heddlu fod y dyn â’r cyllell yn wyn, 21 i 23 oed, 5’7”, ac yn gwisgo twp hwdi gwyrdd a jîns.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 02920 774 233 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.