Brynle Williams
Fe fydd teulu, ffrindiau a gwleidyddion yn bresennol yn angladd yr Aelod Cynulliad, Brynle Williams, ddydd Llun.

Dywedodd swyddogion y blaid Geidwadol eu bod nhw’n bwriadu atal yr ymgyrch etholiadol er mwyn talu teyrnged i’r ffermwr o Gilcain.

“Fe fyddwn ni’n atal yr ymgyrch etholiadol am y diwrnod,” meddai llefarydd ar ran ymgyrch y Ceidwadwyr.

Fe fu farw Brynle Williams, AC Ceidwadol rhanbarth Gogledd Cymru, yn 62 oed yr wythnos diwethaf.

Fe fydd ei angladd yn cael ei gynnal ger y man lle y cafodd ei fagu yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint.

Bydd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, a’r Dirprwy Prif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, ymysg y galarwyr.

Daeth Brynle Williams i sylw’r cyhoedd yn ystod y protestiadau petrol yn 2000.

Daeth yn Aelod Cynulliad a llefarydd y Ceidwadwyr ar amaeth yn 2003.

Ar ôl ei farwolaeth ddydd Gwener, dywedodd y Prif Weinidog David Cameron ei fod yn “gawr o ddyn” ac yn “angerddol iawn”.

Ychwanegodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ei fod yn “gymeriad lliwgar ac yn ymgyrchydd gwydn”.

Bydd yr angladd yn digwydd yng Nghilcain am 1pm ddydd Llun.

Dywedodd y teulu nad oedden nhw eisiau blodau ond y gallai galarwyr roi arian tuag at uned ganser Ysbyty Glan Clwyd neu Hosbis Nightingale House.