Mae Heddlu’r De’n apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad yn Splott, Caerdydd.

Mae’r Heddlu wedi rhyddhau delweddau camerâu cylch cyfyng ac eisiau gwybodaeth am ddau ddyn aeth i mewn i Co-op, Heol Splott, 20 Chwefror a dwyn eitemau o’r siop.

Roedd y dynion gwyn, yn eu 20au, wedi dwyn raseli, cig eidion a ffoil.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad neu’n sy’n adnabod y dynion yn y delweddau teledu cylch cyfyng gysylltu â Taclo’r Tacle’n ddienw ar 0800 555 111 neu gysylltu â Gorsaf Heddlu’r Rhath drwy alw 029 2022 2111 neu estyniad 63313.