Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio pobol Sir y Fflint a Wrecsam i fod yn wyliadwrus ar ôl i dwyllwr ifanc fynd o ddrws i ddrws yn gofyn am arian at ras elusen.

Roedd y bachgen yn honni ei fod yn casglu arian at elusen Help for Heroes.

Mae wedi bod yn  casglu arian yn ardal Penrhyn Drive, Gwersyllt fis Hydref diwethaf, Ystâd Fferm Top House, Heol Newydd, Rhosddu, Wrecsam ym mis Rhagfyr ac yn ardaloedd Shotton a Queensferry o Sir y Fflint ym mis Mawrth eleni.

Mae’n bosibl ei fod wedi casglu mewn ardaloedd eraill o Sir y Fflint a Wrecsam yn ystod yr un cyfnod, meddai’r Heddlu.

“Mae’r mwyafrif sy’n dweud eu bod nhw’n casglu arian i elusennau yn gwbwl onest a dydw i ddim eisiau atal unrhyw un rhag casglu neu gyfrannu at elusen,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Bwcle.

“Fodd bynnag, rydw i yn annog pobl i geisio sicrhau eu bod nhw’n gofyn am gyfeirnod yr elusen cyn rhoi arian at ras elusennol.”

Fe ddylai unrhyw un sydd wedi rhoi arian ni’r bachgen ifanc gysylltu â’r Heddlu ar 101 gan ddyfynnu RM11006499 neu e-bostio mailto:kevin.hackett@nthwales.pnn.police.uk.