Mae llefarydd ar ran Bad Achub Brenhinol Caergybi wedi galw ar bobl i fod yn fwy ofalus ar yr arfordir heddiw ar ôl i’r tîm achub dau fachgen ifanc o draeth Penrhos ddoe.

Roedd y bechgyn wedi mynd i drafferthion ar ôl chwarae triwant o’r ysgol.

“Roedd dau fachgen ifanc wedi’u dal ar draeth Penrhos wrth i’r llanw ddod i mewn. Roedd hi tua force 5,” meddai wrth Golwg 360.

“Mae traeth Penrhos yn fach iawn, ac roedd niwl trwchus.”

Cafodd yr achubwyr wybod fod y bechgyn mewn trafferthion gan y glannau Caergybi, ac roedd y Bad Achub wedi cyrraedd y traeth erbyn 12.30pm.

“Un o’n prif bryderon ni oedd yr hyn fyddai wedi digwydd petai’r bechgyn wedi penderfynu nofio yn ôl. Roedden nhw wedi bod yno ers oriau ac ychydig iawn o loches sydd yno,” meddai.

“Rydyn ni’n annog plant i aros yn yr ysgol a hefyd bod yn ymwybodol o pryd mae’r llanw yn dod i mewn ac allan.”

Dychwelodd y bad achub i’r orsaf erbyn tua 1.30pm.