Mae dau berson wedi eu hanafu yn ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar y A487 rhwng Aberystwyth a Llanrhystud.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw wedi cau’r ffordd er mwyn ymchwilio i’r ddamwain.
Cafodd pedwar person eu hanafu yn y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd a charafán tua 2pm heddiw.
Aethpwyd a’r ddau oedd wedi ei hanafu yn ddifrifol i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth mewn hofrennydd, ac fe aethpwyd a’r ddau arall i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.
Dylai unrhyw un a welodd y ddamwain ffonio 101.