Mae dyn 24 oed oedd wedi ddioddef anafiadau difrifol o ganlyniad i wrthdrawiad â thacsi yn Llanelli bellach wedi marw.

Mae’r heddlu yn parhau i alw am lygaid dystion i’r hyn ddigwyddodd.

Roedd dau ddyn yn cerdded i lawr stryd Trostre yn Llanelli yn oriau mân y bore dydd Sul pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Aethpwyd ag un o’r dynion i Ysbyty Treforys ac mae o bellach wedi marw.

Mae’r heddlu eisoes wedi siarad â gyrrwr y tacsi ond eisiau siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu’r ddau ddyn yn cerdded ar hyd y ffordd.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Dyfed-powys ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.