Y ty sy'n 'debyg' i Adolf Hitler
Mae perchennog y ty yn Abertawe sy’n “debyg” i Adolf Hitler wedi datgelu sut y clywodd fod ei gartref yn enwog – trwy alwad ffôn o’r Almaen!

Mae lluniau o’r ty teras wedi denu sylw byd-eang, ac mae degau o filoedd o bobol wedi bod yn rhannu ac yn trafod y ffordd y mae’r adeilad yn rhannu’r un nodweddion ag Adolf Hitler – y to yn debyg i’r gwallt, y to bychan uwch ben y drws yn ymdebygu i’w fwstash, a ffenestri’r llofft fel ei lygaid.

Ond doedd gan Clive Davies, 60, ddim syniad am yr holl drafod oedd yn digwydd ar y we fyd eang, nes i’w fab weld llun o’i gartref ar fersiwn ar-lein o bapur newydd. Roedd Guy Davies yn eistedd o flaen cyfrifiadur yn Kabul, Affganistan, ar y pryd.

Fe ffoniodd ei wraig yn syth – roedd hi gartref yn y gwersyll milwrol yn Wildenrath, yr Almaen. A hi, wedyn, a ffoniodd ei thad-yng-nghyfraith – tad ei gwr – yn Abertawe, ac adrodd wrtho y stori oedd wedi bod o gwmpas y byd.

“Wnes i erioed sylwi ar unrhyw debygrwydd cyn hyn, ac mae’n debyg fod pawb sy’n pasio heibio bob dydd mor agos iddo nes eu bod nhwthau’n pasio heb sylwi hefyd,” meddai Clive Davies wrth bapur newydd y South Wales Evening Post.

“Mae rhai pobol yn dweud eu bod nhw’n gallu gweld Iesu Grist mewn darnau o dost, ac mae’n siwr mai rhywbeth tebyg ydi hyn.

“Sa’ i’n credu ei fod e’n edrych fel Hitler!”