Mae David Cameron yn mynnu bod ei blaid yn haeddu mwy o glod am ei gwaith dros Gymru, gan ddweud bod y Cymry yn cael gwell bargen ganddo na’r Saeson.

Roedd y Prif Weinidog yn Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr heddiw, yn amddiffyn ei benderfyniad i gwtogi ar wariant cyhoeddus tra’n lladd ar y Blaid Lafur a Phlaid Cymru am fethu gwarchod arian y Gwasanaeth Iechyd.

“Mae’n rhaid i ni adael i bobol wybod bod y cwtogi sydd ar wariant cyhoeddus yng Nghymru, yn llai garw na’r hyn ydyw ar gyfartaledd yng ngweddill Prydain, a llawer llai nag ydyw yn Lloegr,” meddai David Cameron.

“Mae’n rhaid i ni atgoffa pobol ein bod wedi rhoi £65 miliwn o arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru yn y Cynulliad.”

Testun balchder i’r Prif Weinidog oedd addewid y Ceidwadwyr Cymreig i warchod gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd, sef un o’u prif bolisïau ar gyfer etholiad y Cynulliad fis Mai.

“Gwnewch yn siwr fod pobol yn gwybod am awydd y Blaid Lafur i docio £1 biliwn o gyllid y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru,” meddai.

Byd addysg: gormod yn gwthio papur

Yn ôl David Cameron mae traean o’r arian ar gyfer dysgu plant yn cael ei wario ar bobol mewn swyddfeydd sydd ymhell o lawr y dosbarth.

Heddiw mae wedi galw am newid i’r drefn o roi arian i ysgolion Cymru, er mwyn “cymryd yr arian o ddwylo’r biwrocrats” i’w wario yn yr ysgolion.

“Mae traean o’r arian sy’n cael ei wario ar addysg yng Nghymru yn cael ei wario ar fiwrocrasi a gweinyddu, nid yn y dosbarth,” meddai.

Y Swyddfa Gymreig – peth da

Mae Plaid Cymru wedi galw am ddileu’r Swyddfa Gymreig, yn dilyn y bleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm ar fwy o rym i’r Cynulliad.

Ond mae Prif Weinidog Prydian yn anghytuno.

“Maen beth da cael Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru yn eistedd o gwmpas bwrdd y Cabinet, yn siarad dros Gymru ac yn sicrhau fod y wlad yn cael ei hystyried yn iawn,” meddai.