Llun Pelydr X o driniaeth ar y glun
Fe fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn buddsoddi £65 miliwn ychwanegol dros y tair blynedd nesaf i geisio delio ag argyfwng mewn gwasanaethau orthopaedig.

Mae’r rhestrau aros ar gyfer triniaethau yn y maes – sy’n cynnwys cluniau a phengliniau newydd – wedi bod yn cynyddu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwetha’.

Y llynedd fe osodwyd trefn o fesurau arbennig ar ddau Fwrdd Iechyd lleol – Aneurin Bevan a Chaerdydd a’r Fro – oherwydd eu methiant i gadw at darged o 36 wythnos i fynd o gyfeirio at arbenigydd i gael triniaeth.

Wrth gyhoeddi’r manylion am yr arian newydd, fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, bod targed rhestrau aros o 26 wythnos yn cael ei gwrdd mewn mwy na 95% o gleifion eraill, ond bod y maes orthopaedig yn tynnu hynny i lawr i lai na 93%.

Roedd hi’n rhoi’r bai ar gynnydd yn y galw am driniaethau orthopaedig ac mae amcangyfrifon y Gwasanaeth Iechyd yn awgrymu y bydd y niferoedd yn dal i godi wrth i’r boblogaeth heneiddio.

“Fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gynyddu’r gallu i gynnal triniaethau orthopaedeg, ac i leihau’r llwyth o achosion sydd wedi casglu,” meddai.