Mae dros 100 o ymgyrchwyr iaith ac aelodau o undebau amrywiol wedi bod yn protestio y tu allan i Senedd San Steffan heddiw, gan wrthwynebu’r toriadau i S4C.

Mae’n nhw’n anhapus â chynlluniau’r llywodraeth i docio cyllideb S4C a newid y ddeddf fel ei bod hi wedi ei hariannu yn bennaf gan y BBC o 2013 ymlaen.

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno deiseb yn gwrthwynebu’r toriadau, sydd wedi ei harwyddo gan dros 12,000 o bobl, i Swyddfa Cymru ar ddiwedd y brotest.

“Mae’n amser i’r gwleidyddion wrando ar lais Cymru,” meddai Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae Llywodraeth Prydain wedi gwrthod gwrando ar arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru a nifer o fudiadau gwirfoddol sydd yn poeni am yr iaith.

“Nid oes angen i’r llywodraeth arbed 94% o’r arian oedden nhw arfer talu i’r sianel, mae’n doriad gwbl annheg.

“Mae’n well ganddyn nhw fargen a wnaed mewn pedair awr ar hugain rhyngddynt a’r BBC, yn hytrach na gwrando llais pobl Cymru. Mae’n gywilyddus.”

‘Colli swyddi’

Dywed David Donovan, ar ran Ffederasiwn yr Undebau Adloniant, fod dyfodol yr unig sianel deledu Cymraeg yn y fantol.

“Mae’n fygythiad uniongyrchol i’r iaith a’n diwylliant,” meddai. “Mae S4C yn wynebu toriadau enfawr a chael ei thraflyncu gan y BBC. Ar ôl 2015, does dim sicrwydd y bydd unrhyw arian yn mynd i’r sianel o gwbl.”

Ychwanegodd Ken Smith, Cadeirydd NUJ Cymru, y bydd “y toriadau arfaethedig i gyllidebau S4C a BBC Cymru, ynghyd a’r cynllun i ariannu S4C trwy’r ffi drwydded, yn arwain at golli swyddi a chwymp yn ansawdd y rhaglenni, mae’r NUJ yn gwrthwynebu hyn yn gryf.”
Roedd yr Aelodau Seneddol Owen Smith o’r Blaid Lafur, Hywel Williams o Blaid Cymru, a  Roger Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol, ymysg y siaradwyr yn y brotest.