Angela Burns
Fe fydd y Ceidwadwyr yn lansio’u hymgyrch ar gyfer etholiadau’r Cynulliad gydag addewid i warchod a chynyddu’r gwario ar y Gwasanaeth Iechyd.

Fe fyddai hynny’n golygu atal unrhyw doriadau ar wario a’u gynyddu yn unol â chwyddiant yn ystod y pedair blynedd nesa’.

Fe fyddan nhw hefyd yn addo rhoi arian addysg yn uniongyrchol i ysgolion yn hytrach na bod peth yn mynd i awdurdodau addysg.

Ond mae’r pleidiau eraill yn dweud y byddai eu haddewid ar iechyd yn golygu torri mewn meysydd eraill, gan gynnwys addysg.

Y gynta’ i lansio

Y Ceidwadwyr yng Nghymru yw’r blaid gynta’ i ddechrau eu hymgyrch ffurfiol cyn yr etholiadau ar 5 Mai, a hynny mewn cynhadledd i’r wasg yn ddiweddarach y bore yma.

Mae eu harweinydd, Nick Bourne, wedi dweud bod yr etholiadau’n ddigwyddiad allweddol yn hanes gwleidyddol Cymru.

Un arall o’r prif addewidion fydd dileu trethi busnes i fusnesau bach – yn ôl eu llefarydd, Angela Burns, ar Radio Wales, mae angen gwneud yn ogystal â dweud wrth geisio adfywio economi Cymru.