Leighton Andrews
Fe fydd nifer y colegau addysg bellach yng Nghymru’n haneru a rhagor o ysgolion yn cau, os bydd y Llywodraeth yn derbyn adroddiad newydd.
Fe fyddai mwy o rym hefyd yn cael ei dynnu oddi ar awdurdodau lleol a’i roi i’r pedwar consortiwm addysg rhanbarthol.
Yn ôl y Gweinidog Addysg, does dim digon o bwyslais ar wella safonau, mae gormod o anghysondeb ac mae cynghorau sir Cymru’n rhy fach i weithredu ar eu pen eu hunain.
Fe ddywedodd Leighton Andrews wrth y Cynulliad mai gwaith y Llywodraeth nesa’ – ar ôl etholiadau’r Cynulliad – fydd ymateb i’r adroddiad, ond roedd llawer o’r argymhellion yn cyd-daro gyda’i sylwadau yntau.
‘Anghysondeb’ – sylwadau Leighton Andrews
“Yn aml, dyw’r pwyslais di-ildio ar wella, a ddylai fod ym mhob than o’r system ymhobman yng Nghymru, ddim yno,” meddai.
“O ganlyniad, mae yna anghysondeb o ran cyflawni ac, yn gyffredinol, mae’r broses o wella wedi bod yn rhy ara’.”
Roedd yr adroddiad gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn edrych ar drefniadau addysg yng Nghymru ac mae’n galw am ragor o gydweithio a rhagor o her i ysgolion.
“Mae’n dweud nad oes digon o gyfrifoldeb clir am berfformiad, na digon o gefnogaeth o safon uchel a her gyhyrog, wybodus ar bob lefel,” meddai’r Gweinidog.
Y prif argymhellion
Dyma rai o’r prif argymhellion:
- Ddylai’r un awdurdod addysg gael mwy na 10% o lefydd gwag felly rhaid edrych eto ar gau ysgolion – “rhesymoli” yw’r gair yn yr adroddiad.
- Fe ddylai nifer y colegau addysg bellach yng Nghymru fynd i lawr o 21 i rhwng 8 a 12.
- Mae angen profion darllen a rhifo ar blant ar ddechrau’r ail a’r bumed flwyddyn mewn ysgolion cynradd.
- Mae angen cryfhau’r consortia rhanbarthol mewn nifer o feysydd gan symud peth cyfrifoldeb a grym o’r cynghorau lleol iddyn nhw.