Senedd Cymru
Fe fydd pwerau deddfu newydd Cynulliad Cymruyn dod i rym ym mis Mai ar ôl i Aelodau Cynulliad eu cymeradwyo heddiw.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, mai ei orchymyn oedd un o’r darnau sylweddol olaf o fusnes cyn y toriad yfory.

Cafodd y pwerau newydd eu cymeradwyo ar ôl y bleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm ar ddechrau’r mis.

Mae’n golygu y bydd Aelodau Cynulliad yn gallu creu deddfau mewn 20 maes gwahanol heb ganiatâd Senedd San Steffan.

Bydd y pwerau deddfu newydd yn dod i rym ar 5 Mai – diwrnod Etholiadau’r Cynulliad.

“Mae’r gallu i gyflwyno ein cyfreithiau ein hunain yn seiliedig ar anghenion pobol Cymru yn un o’r digwyddiadau pwysicaf yn hanes y wlad falch yma,” meddai Carwyn Jones.

Bydd cyfarfod llawn olaf y Cynulliad cyn yr etholiadau yn digwydd yfory.

Mae disgwyl y bydd cyn Ysgrifennydd Cymru, Rhodri Morgan, yn arwain Aelodau’r Cynulliad allan o’r siambr gan gario’r prysgyll seremonïol.

Fe fydd Rhodri Morgan, sy’n 71 oed, yn ymddeol o wleidyddiaeth ar ddiwedd trydydd tymor y Cynulliad.