Meol Famau - un o Fryniau Clwyd (John S Turner CCA 2.0)
Mae rhai o ffermwyr gogledd-ddwyrain Cymru yn anhapus ar ôl i’r Cyngor Cefn Gwlad benderfynu estyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yno.

Penderfynodd Cyngor Cefn Gwald Cymru fwrw ymlaen â’r cynllun mewn cyfarfod yn Llangollen ddoe.

Ond mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi datgan eu siom mewn penderfyniad a fydd, yn ôl prif swyddog y rhanbarth, Marion Jones, yn fygythiad i “ffermio a’r gymuned leol yn yr ardal.”

Cytunodd aelodau’r Cyngor Cefn Gwlad ar gynllun a fyddai’n ymestyn yr ardal Harddwch Naturiol Eithriadol bresennol i gynnwys Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy.

Bydd y cynlluniau yn cael eu cyflwyno i Weinidog yr Amgylchedd, Jane Davidson er mwyn cael eu cymeradwyo’n derfynol.

Siom

Dywedodd Marion Jones o Undeb Amaethwyr Cymru fod y penderfyniad yn ymyrryd â’r gwaith da y mae amaethwyr wedi ei wneud dros y blynyddoedd er mwyn cynnal harddwch yr ardal.

“Mae hi’n ffaith sydd wedi ei chydnabod ers sbel,” meddai, “bod ffermio wedi helpu i greu a chynnal tirwedd y rhan yma o Gymru.”

Roedd Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyflwyno eu dadl i’r Cyngor Cefn Gwlad yn Llangollen, ond dywedodd Marian Jones ei bod hi’n teimlo eu bod nhw wedi diystyru eu barn.

“Rydyn ni wedi ein siomi fod Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi penderfynu ymestyn ardal Bryniau Clwyd, er gwaetha’r ffaith fod mwyafrif y rhai ymatebodd i’r cynllun yn wrthwynebus,” meddai.

Addawodd y byddai’r undeb yn “parhau i bwysleisio’u gwrthwynebiad i’r cynlluniau yn ystod ymgyrchu etholiadau’r Cynulliad”.

Yn ôl Cyngor Cefn Gwald Cymru, fe fyddai ymestyn ardal harddwch eithriadol naturiol Bryniau Clwyd yn gyfle i i wella cynaladwyedd ac atal niwed twristiaeth a datblygiadau ar y tir.