Fe fydd plant Cymru yn cael eu gwahardd rhag defnyddio gwelyau haul yr wythnos nesaf, cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, heddiw.

Mae Deddf Gwelyau Haul 2010 yn ei wneud yn drosedd i fusnesau ganiatáu i unrhyw un dan 18 oed ddefnyddio gwely haul.

Nod y gwaharddiad yw gostwng cyfradd canser y croen ac amddiffyn plant rhag gormod o ymbelydredd uwchfioled, yn ôl swyddogion Llywodraeth y Cynulliad.

Mae’r ddeddf a fydd yn dod i rym ar 8 Ebrill hefyd yn caniatáu i wleidyddion gyflwyno rheolau llymach ar ddefnyddio gwelyau haul.

Dywedodd Edwina Hart y bydd hi hefyd yn gorfodi busnesau i oruchwylio pobol sy’n defnyddio gwelyau haul, o 31 Hydref ymlaen.

Adroddiad

“Mae gan ganser effaith torcalonnus ar unigolion a’u teuluoedd ac mae’r llywodraeth yma yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i fynd i’r afael â’r broblem,” meddai Edwina Hart, Aelod Cynulliad Gŵyr.

“Nod y mesurau hyn yw amddiffyn pobol ifanc rhag perygl cynyddol datblygu canser o ganlyniad i ddefnyddio gwelyau haul.

“Mae yna sawl achos wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi tynnu sylw at faint o niwed y mae defnyddio gwelyau haul yn gallu ei achosi.”

Yn 2009 comisiynodd y Gweinidog Iechyd adroddiad gan  Ymchwil Canser Cymru i ddefnydd gwelyau haul pobol ifanc yng Nghymru.

Yn ôl yr adroddiad roedd 8.2% o blant 11-17 oed wedi defnyddio gwely haul o leiaf unwaith.

Roedd 41.5% o’r rheini heb eu goruchwylio ar y pryd. Roedd defnydd yn uwch ymysg merched, â 22.5% o’r rheini oedd rhwng 15-17 oed wedi defnyddio gwely haul.

Yn ôl y Gymdeithas Gwelyau Haul, mae yna 450 o fusnesau gwelyau haul yng Nghymru.