Nick Bourne
Fe fyddai’r Ceidwadwyr yn barod i wasanaethau dan Brif Weinidog o Blaid Cymru hyd yn oed pe baen nhw’n ennill mwy o seddi, yn ôl ffynonellau o fewn y blaid.

Mae’n debyg fod y Ceidwadwyr, sydd mewn grym yn San Steffan, yn fodlon cynnig datganoli pwerau dros dreth, cyfiawnder a darlledu i Gymru er mwyn cael bod yn rhan o Lywodraeth Cymru.

Dywedodd ffynhonnell ar ran y Ceidwadwyr wrth bapur newydd y Western Mail mai nhw “yw’r unig blaid sydd heb fod yn rhan o lywodraeth ers datganoli, a dyw hynny ddim yn beth da”.

Yn ôl y papur newydd mae yna ffigyrau o fewn Plaid Cymru sydd hefyd yn ystyried clymbleidio â’r Ceidwadwyr, pe baen nhw’n barod i ddiwygio Fformiwla Barnett sy’n penderfynu faint o arian sy’n mynd i Gymru bob blwyddyn.

“Y Ceidwadwyr yw’r unig blaid sydd â’r grym i drosglwyddo unrhyw beth i Gymru,” meddai.

Ond awgrymodd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, cyn cynhadledd y blaid dros y penwythnos y byddai cytundeb â’r Ceidwadwyr yn annhebygol.

“Fe fyddai’n anodd dod i unrhyw fath o gytundeb â’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn sgil y toriadau y mae Llywodraeth Prydain wedi eu gorfodi arnom ni,” meddai Aelod Cynulliad Ynys Môn.