Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi y bydd cytundeb Golwg 360 i ddarparu a datblygu gwasanaeth newyddion ar-lein yn cael ei ymestyn am dair blynedd arall.

Dywedodd Panel Grantiau Cyhoeddi Cymraeg y Cyngor Llyfrau eu bod nhw’n llongyfarch Golwg 360 ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes.

Cytunwyd i ymestyn y cytundeb am gyfnod pellach o dair blynedd er mwyn sicrhau datblygiad y cynllun drwy’r cyfnod economaidd anodd presennol.

Dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, fod Golwg 360 wedi “datblygu’n adnodd newyddion pwysig i Gymry Cymraeg”.

“Rwy’n falch i weld y cynnydd mae gwefan Golwg 360 wedi’u gwneud mewn dwy flynedd a bydd yr estyniad i’r cytundeb yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu’r gwasanaeth ymhellach,” meddai.

“Mae gwasanaeth newyddion dyddiol yn y Gymraeg yn hynod o bwysig i ddatblygu’r iaith ac i gynyddu’r amrywiaeth o ffynonellau newyddion yng Nghymru.”

Arolwg

Comisiynodd y Cyngor Llyfrau gwmni Wavehill, Aberaeron, i gynnal arolwg o’r gwasanaeth ym mis Mawrth 2010 gan gasglu barn defnyddwyr am y gwasanaeth a phatrymau ymweld â’r wefan.

Cafwyd canmoliaeth gyffredinol i safon newyddiaduraeth y gwasanaeth gan ei gymharu’n ffafriol â gwasanaethau cyffelyb, meddai’r Cyngor Llyfrau.

Mae’r adroddiad, sydd hefyd yn cynnwys argymhellion ar ffyrdd o ddatblygu’r gwasanaeth, i’w weld ar wefan y Cyngor Llyfrau.

Erbyn hyn y mae Golwg 360 eisoes wedi dechrau gweithredu rhai o’r argymhellion gan weld cynnydd yn y nifer sy’n ymweld â’r safle.

Yn dilyn cyflwyno dyluniad newydd i’r wefan yn ddiweddar mae’r nifer o ymweliadau wedi cyrraedd dros 144,000 y mis.

Dywedodd Owain Schiavone, cyfarwyddwr Golwg 360, ei fod yn “falch iawn gyda’r newyddion wrth reswm”.

“Mae’n bleidlais o hyder ac yn arwydd o lwyddiant y prosiect, a hynny efo tîm bach brwd mewn amser economaidd anodd,” meddai.

“Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu’r gwasanaeth ymhellach dros y tair blynedd nesaf. Mae’r ffigurau ymweld yn dangos ein bod yn cynnig gwasanaeth unigryw sydd hefyd yn llwyfan ardderchog i fusnesau Cymru ar gyfer hysbysebu a hyrwyddo.”

Hyderus

“Sefydlwyd gwefan Golwg 360 yn 2009, gwta ddwy flynedd yn ôl, a bellach mae wedi sefydlu’i hun fel ffynhonnell newyddion Cymreig a rhyngwladol,” meddai Elwyn Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau.

“Gydag ymestyn y cytundeb, rydym yn hyderus y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddatblygu ymhellach ac y bydd hyn yn fodd i ddenu darllenwyr newydd i dderbyn eu newyddion drwy’r Gymraeg.”