Mae un awdurdod lleol wedi galw ar bobol i ddefnyddio llai o raean pan maen nhw’n clirio ffyrdd sydd wedi eu gorchuddio â rhew neu eira.

Dywedodd pennaeth priffyrdd Cyngor Sir Ddinbych,  Stuart Davies, fod y cyhoedd yn tueddu i daenu hanner tunnell o raean o finiau ar ymyl y ffyrdd dros ardal fach iawn.

Mae lorïau graeanu yn taenu pum tunnell o raean dros 30 milltir o ffyrdd.

Oherwydd prinder graean dros y gaeaf diwethaf doedd y biniau ddim fel arfer yn cael eu hail-lenwi, meddai.

Yn ôl adroddiad gan Stuart Davies, oedd yn edrych ar sut oedd y cyngor wedi ymdopi ag eira’r gaeaf, roedd pobol hefyd yn mynd a halen y cyngor a’i ddefnyddio ar eu dreifiau eu hunain, heb sylweddoli fod hynny’n anghyfreithlon.

Roedd yn argymell y byddai defnyddio cymysgedd o halen a graean yn y biniau yn ei gwneud hi’n llai tebygol y bydden nhw’n cael eu cam-ddefnyddio.

“Mae’r bobol syn defnyddio’r biniau graean fel arfer yn llawn bwriadau da ond mae’r biniau yn gwagio’n gyflym iawn a ddim yn cael eu hail-lenwi ar weddill y gaeaf,” meddai.

“Mae pobol yn tueddu i feddwl fod [taenu graean ar eu dreifiau] yn gyfreithlon am eu bod nhw wedi talu amdano drwy eu trethi, ond mae hynny yn arwain at lawer iawn o gwynion i swyddogion y cyngor.”