Neuadd y Ddinas, Caerdydd
Mae arweinydd Cyngor Caerdydd yn amau y gallai’r ddinas fod wedi colli £85 miliwn dros y ddegawd ddiwethaf oherwydd bod cyfrifiad 2001 wedi ‘tan-gyfrif’ ei phoblogaeth.

Dywed Rodney Berman ei fod yn credu bod tua 22,000 yn fwy o bobl yn byw yng Nghaerdydd nag a gafodd eu cofnodi yn y cyfrifiad diwethaf.

Fe wnaeth ei sylwadau ar raglen y Politics Show heddiw, diwrnod cyfrifiad 2011.

“Mae’r wybodaeth sy’n cael ei gasglu ar ffurflenni cyfrifiad yn hanfodol ar gyfer darparu ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus,” meddai wrth atgoffa pobl o bwysigrwydd llenwi’r ffurflenni.

Yn ôl cyfrifiad 2001, roedd poblogaeth dinas a sir Caerdydd yn 305,000.

“Credwn fod hyn yn tan-gyfrif poblogaeth Caerdydd, o tua 22,000 – a bod hyn wedi cael effaith sylweddol oherwydd fod y cyllid a gawson ni ers hynny’n llai na’r hyn y credwn y dylen ni fod wedi’i gael.

“Mae’r cyllid a gawn yn seiliedig ar y nifer o bobl sydd gennym yn byw yn y ddinas, ac rydym yn amcangyfrif y gallai’r tan-gyfrif yma fod wedi costio £85 miliwn inni dros y blyneddoedd ers hynny.”

Ymysg y cwestiynau sy’n cael eu gofyn ar y ffurflen mae un am hunaniaeth genedlaethol, lle mae cyfle i’r atebwr ddisgrifio’i hun fel Cymro neu Gymraes am y tro cyntaf. Mae hefyd gwestiynau ynghylch y gallu i ddeall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg.

Caiff y Cyfrifiad ei gynnal pob 10 mlynedd ym Mhrydain, a chaiff yr wybodaeth am unigolion sydd ynddo ei gadw’n gyfrinachol am 100 mlynedd.